Cwestiwn
Sut y gallaf wybod beth yw ewyllys Duw ar gyfer fy mywyd?
Ateb
Mae鈥檔 bwysig gwybod beth yw ewyllys Duw. Dywedodd Iesu mai ei wir berthnasau yw鈥檙 rhai sy鈥檔 gwybod beth yw ewyllys y Tad ac yn gwneud hynny: 鈥淧wy bynnag sy鈥檔 gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw鈥檔 frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.鈥 (Marc 3:35). Yn ddameg y ddau fab, mae Iesu鈥檔 ceryddu鈥檙 prif offeiriaid a鈥檙 henuriaid am fethu 芒 gwneud ewyllys y Tad; yn benodol, ni wnaethant newid eu meddwl a dod i gredu (Mathew 21:32). Ar ei symlaf, ewyllys Duw yw edifarhau am ein pechod ac ymddiried yn Iesu Grist. Os nad ydym wedi cymryd y cam cyntaf hwnnw, yna nid ydym wedi derbyn ewyllys Duw eto.
Ar 么l i ni dderbyn Iesu Grist trwy ffydd, cawn ein gwneud yn blant Duw (Ioan 1:12), ac mae ef yn dymuno ein harwain yn ei ffordd ef (Salmau 143:10). Nid yw Duw yn ceisio cuddio ei ewyllys oddi wrthym; mae ef yn dymuno ei datgelu i ni. Yn wir, mae ef eisoes wedi rhoi llawer iawn o gyfarwyddiadau i ni yn ei Air. Rydym i 鈥渞[oi ]diolch, oherwydd hyn yw ewyllys Duw yng Nghrist Iesu i chwi.鈥 (1 Thesaloniaid 5:18). Rydym i wneud gweithredoedd da (1 Pedr 2:15). Ac ewyllys Duw yw 鈥渋chwi gael eich sancteiddio: yr ydych i ymgadw oddi wrth anfoesoldeb rhywiol鈥 (1 Thesaloniaid 4:3).
Mae ewyllys Duw yn wybodadwy ac yn brofadwy. Dywed Rhufeiniaid 12:2, "A pheidiwch 芒 chydymffurfio 芒'r byd hwn, ond bydded ichwi gael eich trawsffurfio trwy adnewyddu eich meddwl, er mwyn ichwi allu canfod beth yw ei ewyllys, beth sy鈥檔 dda a derbyniol a pherffaith yn ei olwg ef.鈥 Mae鈥檙 darn hwn yn rhoi trefn bwysig i ni: mae plentyn Duw yn gwrthod cydymffurfio 芒鈥檙 byd ac, yn lle hynny, mae鈥檔 caniat谩u iddo gael ei drawsffurfio gan yr Ysbryd. Gan fod ei feddwl yn cael ei adnewyddu yn 么l pethau Duw, yna gall wybod ewyllys perffaith Duw.
Wrth i ni geisio ewyllys Duw, dylem wneud yn si诺r nad yw鈥檙 hyn yr ydym yn ei ystyried yn rhywbeth y mae鈥檙 Beibl yn ei wahardd. Er enghraifft, mae鈥檙 Beibl yn gwahardd dwyn; oherwydd bod Duw wedi siarad yn glir am y mater, rydym ni鈥檔 gwybod nad yw Duw yn dymuno i ni fod yn lladron banc 鈥 nid oes angen i ni wedd茂o am y peth hyd yn oed. Hefyd, dylem wneud yn si诺r bod yr hyn yr ydym yn ei ystyried yn gogoneddu Duw ac yn ein helpu ni a phobl eraill i dyfu鈥檔 ysbrydol.
Mae gwybod beth yw ewyllys Duw yn anodd ar brydiau am ei fod yn gofyn am amynedd. Mae鈥檔 naturiol inni ddymuno cael gwybod holl ewyllys Duw ar unwaith, ond nid dyna sut y mae ef yn gweithio fel arfer. Mae鈥檔 datgelu cam ar y tro i ni 鈥 ac mae pob symudiad yn golygu camu allan mewn ffydd 鈥 sy鈥檔 caniat谩u i ni barhau i ymddiried ynddo ef. Y peth pwysig, wrth i ni aros am ragor o gyfarwyddyd, yw ein bod ni鈥檔 brysur yn gwneud y daioni yr ydym yn gwybod y dylem ei wneud (Iago 4:17).
Yn aml, rydym ni鈥檔 dymuno cael manylion penodol oddi wrth Dduw 鈥 ble i weithio, ble i fyw, pwy i鈥檞 briodi, pa gar i鈥檞 brynu, ac ati. Mae Duw yn caniat谩u i ni wneud dewisiadau, ac, os ydym ni鈥檔 ostyngedig iddo ef, mae ganddo ffyrdd o atal dewisiadau anghywir (gweler Actau 16:6-7).
Po orau y byddwn yn dod i adnabod rhywun, po orau y byddwn yn dod yn gyfarwydd 芒鈥檌 ddymuniadau. Er enghraifft, gallai plentyn edrych ar draws stryd brysur ar b锚l a sbonciodd i ffwrdd, ond nid yw鈥檔 rhedeg ar ei h么l, oherwydd ei fod yn gwybod 鈥渘[a] fyddai fy nhad yn dymuno i mi wneud hynny鈥. Does dim rhaid iddo ofyn i鈥檞 dad am gyngor ar gyfer pob sefyllfa arbennig; mae鈥檔 gwybod beth fyddai ei dad yn ei ddweud am ei fod yn adnabod ei dad. Mae鈥檙 un peth yn wir yn ein perthynas 芒 Duw. Wrth i ni gerdded gyda鈥檙 Arglwydd, gan ufuddhau i鈥檞 air a chan ddibynnu ar ei Ysbryd, rydym ni鈥檔 canfod bod meddwl Crist gennym ni (1 Corinthiaid 2:16). Rydym ni鈥檔 ei adnabod ef, ac mae hynny鈥檔 ein helpu ni i wybod beth yw ei ewyllys ef. Rydym ni鈥檔 canfod arweiniad Duw ar gael yn rhwydd. 鈥淵 mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa鈥檙 drygionus trwy ei ddrygioni.鈥 (Diarhebion 11:5).
Os ydym ni鈥檔 cerdded yn agos gyda鈥檙 Arglwydd ac yn wir ddymuno ei ewyllys ar gyfer ein bywydau, bydd Duw yn rhoi ei ddymuniadau yn ein calonnau. Dymuno ewyllys Duw, ac nid ein hewyllys ein hunain sy鈥檔 allweddol. 鈥淵mhyfryda yn yr ARGLWYDD, a rhydd iti ddeisyfiad dy galon鈥 (Salmau 37:4).
English
Sut y gallaf wybod beth yw ewyllys Duw ar gyfer fy mywyd?